top of page

YMWELD Â'R EGLWYS

ORIAU AGOR
10 y bore - 4 y prynhawn, bob dydd.

Llannefydd
LL16 5YE


SUT I GYRRAEDD YMA
Mae bysiau i'r pentref yn brin ac felly dim ond mewn car/beic y gellir cyrraedd y pentref mewn gwirionedd.
Mae’r eglwys yng nghanol y pentref ac mae maes parcio o faint da gyda chyfleusterau y tu cefn i’r fynwent.

HYGYRCHEDD
Mae’r eglwys yn hygyrch i gadeiriau olwyn drwy’r maes parcio. Ar gyfer digwyddiadau yn yr eglwys rydym yn sicrhau ein bod yn cadw lleoedd yn y maes parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas.

CAFFI HUNAN-WASANAETH
Erbyn hyn, mae caffi hunan-wasanaeth yn yr eglwys, ac mae te, coffi ac weithiau gacennau ar gael! Dewch i gael paned wrth i chi fwynhau'r amgylchedd hynod.

ARDDANGOSFEYDD 
Mae gan yr eglwys arddangosfa barhaol ar fywyd Catrin o Ferain. Yn y gorffennol, cynhaliwyd arddangosfeydd dros dro ar hanes yr ardal a phobl sy'n gysylltiedig â hi. Gwiriwch yr adran 'Newyddion' am y wybodaeth ddiweddaraf am arddangosfeydd dros dro.


TAITH PERERIN GOGLEDD CYMRU  
Mae’r eglwys yn agos at Daith Pererin Gogledd Cymru, sef llwybr cerdded hynod brydferth sy’n cysylltu safleoedd mwyaf sanctaidd y rhanbarth o Dreffynnon i Ynys Enlli.
North Wales Pilgrims Way - The British Pilgrimage Trust


BWYD/LLETY 
Mae Tafarn yr Hawk and Buckle, yn union gyferbyn â'r eglwys, yn cynnig prydau bwyd a llety gwely a brecwast.
thehawkandbuckle.co.uk


MYNYDD Y GAER
Lai na milltir o’r eglwys, mae’r gaer hon o’r Oes Haearn. Mae llwybr cyhoeddus yn arwian ati ac o’i phen mae golygfeydd hyfryd o Eryri a draw tuag at Fryniau Clwyd.

bottom of page