top of page

AMDANOM NI

Sefydlwyd Cyfeillion Eglwys Llannefydd ym mis Ebrill 2022 er
mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o eglwys restredig Gradd-I
Nefydd a Mair a'r angen am ei diogelu ar gyfer y dyfodol ac er
lles y gymuned. Rydym yn bodoli er mwyn hyrwyddo
gwerthfawrogiad o'i hanes ac i gydlynu ymdrechion codi arian
ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio'r adeilad. Gall y costau
hyn fod yn sylweddol, o ystyried oed a maint yr eglwys.

Nid ydym yn ymwneud â helpu gyda chostau rhedeg yr eglwys o ddydd i ddydd fel man addoli, ac nid yw’r grŵp Cyfeillion ynddo’i hun yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru ychwaith.

Estynnwn wahoddiad cynnes i bawb sy’n gweld gwerth yng ngoroesiad y lle prydferth hwn, i gysylltu, boed nhw o’r un ffydd, neu o grefydd arall, neu yn wir heb unrhyw grefydd o gwbl, boed nhw’n byw yn lleol neu ymhell i ffwrdd. Os hoffech chi gymryd rhan neu wybod mwy am ein gwaith, ewch i'r dudalen Cysylltu.

image1%20(10)_edited.png
bottom of page