top of page

HANES

Credir bod gan y safle wreiddiau hynafol fel man addoli ac mae adeilad presennol yr eglwys, sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif, yn adeilad rhestredig Gradd I. Dyma fan claddu ‘Mam Cymru’, sef Catrin o Ferain, a enwyd felly am ei rhwydwaith helaeth o berthnasau a disgynyddion.

TARDDIAD HYNAFOL 
Mae'r eglwys yn ei ffurf bresennol yn dyddio o tua 1500, ond mae'n amlwg wrth edrych ar y safle, ei fod yn addoldy hynafol. Yn sicr, roedd eglwys ganoloesol gynharach yn rhagflaenu'r adeilad presennol, sydd wedi'i leoli o fewn Llan Geltaidd ddyrchafedig y gellir ei weld yng nghlostir y fynwent bresennol. Y ffordd trwy'r pentref oedd y brif ffordd i Iwerddon hyd at y ddeunawfed ganrif.

Painting of Katheryn of Berain, the mother of Wales
Catrin o Ferain, gan Adriaen van Cronenburgh, 1568.
Hawlfraint Amgueddfa Cymru. National Museum, Wales



Bu'n byw am lawer o'i hoes yn y Berain, tŷ ym mhlwyf Llannefydd, ond bu hefyd yn byw am gyfnod yn Antwerp (lle y paentiwyd y portread hwn), Hamburg, ac yng Nghastell Gwydir (Llanrwst). Roedd hi'n noddwr brwd i feirdd a byddai ymwelwyr â'i chartref wedi dod ar draws barddoniaeth a cherddoriaeth bywyd llys y Tuduriaid. Daeth ar draws trasiedi pan gafodd ei mab hynaf, Thomas Salusbury, ei gysylltu â Chynllwyn Babington ym 1586 a chafodd ei ddienyddio fel bradwr am ei ran yn y cynllwynio i ddisodli Elisabeth I â'r Gatholig Mary Queen of Scots. Ymhlith disgynyddion niferus Catrin mae Hester Thrale (1740/1-1821), dyddiadurwr, geiriadurwr, noddwr y celfyddydau, adnabyddiaeth agos o Samuel Johnson ac awdur yr hyn a welwyd fel hanes ffeministaidd cynnar; a Syr John Salusbury (1707-62), dyddiadurwr a sylfaenydd Canada fodern.

Mae arddangosfa ar Catrin i'w gweld yn yr eglwys.

PENSAERNÏAETH
Mae dau gorff i’r eglwys ac mae hi wedi ei hadeiladu yn yr arddull unionsgwar. Mae hwn yn arddull a welir mewn eglwysi eraill o ddiwedd yr oesoedd canol yn Nyffryn Clwyd. Mae nifer o henebion o ddiddordeb yn yr eglwys, gan gynnwys carreg feddrod o'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn nau gorff yr eglwys, mae’r to bwa cleddog gwreiddiol wedi ei gadw.
Mae gwydriad y ffenestri a'r clochdy hefyd mae'n debyg yn dyddio o 1859, tra bod y seddau, y gangell, y côr, y sgrin a'r pulpud yn dyddio o raglen adnewyddu helaeth a wnaed ym 1907. Roedd yr eglwys gynt wedi'i gwyngalchu; gwyddys mai felly y bu tua'r flwyddyn 1800, yn gyffredin ag eglwysi eraill yn y cyfnod hwn.

NEWID Y CYNLLUN MEWNOL
Dros y canrifoedd, ac fel gyda’r rhan fwyaf o eglwysi canoloesol, mae cynllun mewnol yr eglwys wedi bod yn destun newidiadau sylweddol. Mae’r hyn a welwch nawr, gyda’r seddau yn wynebu’r allor yn y pen dwyreiniol, lleoliad y pulpud, y gangell a’r sgrin, yn adlewyrchu syniadau Mudiad Rhydychen (a ddechreuwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg) a’r awydd i adfer ffurfwedd ganoloesol megis gofodau ar wahân i'r gynulleidfa a'r clerigwyr, ac yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r allor. Mae’r cynllun hwn yn bodoli ers adnewyddiadau 1907. Cyn hynny, roedd bwrdd cymun wedi'i leoli'n ganolog yn cael ei amgylchynu gan seddau bocs pren ac oriel, gyda'r pulpud wedi'i leoli yng nghanol y wal ogleddol (mae ei orchudd i'w weld hyd heddiw). 
 
Roedd y cynllun cynharach hwn yn llawer mwy nodweddiadol o du mewn eglwysi ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Heb gangell a sgrin, ond yn cynnwys bwrdd cymun canolog, dilëwyd y rhaniad sylfaenol rhwng clerigwyr a chynulleidfa a oedd yn amlwg yn y cynlluniau cyn y Diwygiad Protestannaidd. O ran defosiwn, roedd yn fwy egalitaraidd na'r hyn oedd wedi bodoli o'r blaen. Fodd bynnag, nid oedd o reidrwydd yn egalitaraidd yn gymdeithasol: mewn llawer o eglwysi, roedd maint a threfn seddau bocs yn ôl rhaniadau cymdeithasol a hierarchaethau. Mewn rhai eglwysi, mae'n hysbys fod seddau bocs oedd yn perthyn i'r boneddigion yn cynnwys dodrefn moethus a hyd yn oed lefydd tân! Mae'r enwau teuluol a nodwyd ar y seddau bocs yn Llannefydd bellach i'w gweld wedi'u gosod ar y wal i'r chwith o'r organ, yn ogystal â drws sampl o un o'r seddau.

CATRIN O FERAIN, 'MAM CYMRU' (c.1535-91)
Cangell yr eglwys yw gorffwysfa olaf Catrin o Ferain, a alwyd yn 'Fam Cymru'. Er ei bod yn destun straeon enllibus ar sail ei phriodasau niferus, mae hi'n un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru o gyfnod y Tuduriaid. Ei thaid ar ochr ei mam oedd y marchog o Lydaw, sef Syr Roland Velville, cyfrinachwr ac yn ôl pob tebyg mab anghyfreithlon Harri’r Wythfed (gan wneud Catrin yn ail gyfneither i Elisabeth y Cyntaf). Yr oedd Catrin yn hynod ymwybodol o'i thras fonheddig, a manteisiodd hi a’i phlant ar yr amrywiol fanteision a ddaeth yn sgil priodas (priododd bedair gwaith).

bottom of page